SL(6)412 – Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn rhagnodi’r categorïau o bersonau o dramor sy’n gymwys neu'n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a/neu gymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol.
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 (“y Rheoliadau”) yn diwygio Rheoliadau 2014 i estyn cymhwystra i’r rhai a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023, ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a ddatblygodd yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.
Bydd personau o fewn y categori hwn sy’n wladolion Prydeinig, personau eraill nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (neu nad ydynt yn cael eu trin felly), a’r rheini sydd â chaniatâd mewnfudo a hawl i arian cyhoeddus, yn gymwys i wneud cais am ddyraniad cymorth tai a/neu gymorth tai wrth gyrraedd Cymru.
Gweithdrefn
Cadarnhaol
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar 30 Hydref 2023, yn gofyn am gymorth y Pwyllgor i gyflymu’r gwaith o graffu ar y Rheoliadau, oherwydd eu brys.
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd Ddatganiad Ysgrifenedig am y Rheoliadau ar 7 Tachwedd 2023.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae Adran 5 y Memorandwm Esboniadol yn rhoi’r esboniad a ganlyn:
Gan fod y sefyllfa wedi digwydd mor sydyn, a'r angen ymarferol i wneud yn siŵr y gall y rhai sydd wedi cyrraedd neu sy'n cyrraedd Cymru gael tai neu gymorth tai, rydym o'r farn y byddai'n anfanteisiol cynnal ymgynghoriad. Gan y bydd y Rheoliadau diwygio hefyd yn sicrhau canlyniadau sy'n ymwneud â pholisi (mewnfudo a lles) y Llywodraeth y DU a ddargedwir, ni fyddai modd cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar ddulliau gweithredu amgen, gan mai effaith y Rheoliadau diwygio yw sicrhau cysondeb rhwng cyfraith tai Cymru a chyfraith mewnfudo/lles.
Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod am y newid deddfwriaethol, ynghyd ag atodiad i'r Cod Cyfarwyddyd, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o sut i gymhwyso'r ddeddfwriaeth newydd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Tachwedd 2023